Mater - cyfarfodydd
Council Tax Setting for 2025/26
Cyfarfod: 24/02/2025 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 86)
86 Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2025/26 PDF 104 KB
Pwrpas: Cymeradwyo’r ffioedd Treth y Cyngor ar gyfer 2025/26.
Dogfennau ychwanegol:
- Amg. 1, eitem 86
PDF 108 KB
- Amg. 2, eitem 86
PDF 79 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2025/26
Cofnodion:
Cafwyd adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) i bennu taliadau Treth y Cyngor a phenderfyniadau statudol cysylltiedig yn ffurfiol ar gyfer 2025/26 fel rhan o strategaeth ehangach y gyllideb ar sail y penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol. Roedd lefel gyffredinol Treth y Cyngor yn cynnwys tri phraesept ar wahân a osodwyd gan (i) y Cyngor Sir, (ii) Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a’r (iii) holl Gynghorau Tref/Cymuned a oedd yn llunio cyfanswm y tâl a godwyd yn erbyn pob eiddo. Roedd yr adroddiad yn nodi’r praeseptiau i’w codi gan y Cyngor yn seiliedig ar gynnydd o 9.5% fel y nodir yn yr adroddiad blaenorol.
Cymeradwywyd yr argymhellion yn yr adroddiad fel y'u cynigiwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Richard Jones.
Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi ar y prif gynnig, a chefnogodd nifer ofynnol o Aelodau hyn.
Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid y prif gynnig:-
Y Cynghorwyr: Mike Allport, Glyn Banks, Pam Banks, Sean Bibby, Chris Bithell, Helen Brown, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, Goeff Collett, Steve Copple, Bill Crease, Paul Cunningham, Rob Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Ian Hodge, Dave Hughes, Dennis Hutchinson, Paul Johnson, Christine Jones, Richard Jones, Simon Jones, Fran Lister, Richard Lloyd, Gina Maddison, Allan Marshall, Hilary McGuill, Ryan McKeown, Billy Mullin, Ted Palmer, Mike Peers, Kevin Rush, Jason Shallcross, Linda Thomas, Arnold Woolley ac Antony Wren
Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn y prif gynnig:-
Y Cynghorwyr: Marion Bateman, Gillian Brockley, David Coggins-Cogan, Adele Davies-Cooke, Carol Ellis, Chrissy Gee, Andy Hughes, Alasdair Ibbotson, Dave Mackie, Debbie Owen, Andrew Parkhurst, Carolyn Preece, David Richardson, Dan Rose, Dale Selvester, Sam Swash a Linda Thew
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Treth y Cyngor 2025/26 yn cael ei osod yn seiliedig ar gynnydd o 9.5% yn ffioedd y Cyngor Sir, fel a nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad;
(b) Cymeradwyo parhau â’r polisi o beidio â rhoi gostyngiad yn lefel ffioedd Treth y Cyngor 2025/26 ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor. Yn ogystal â hyn, pan nad yw eithriadau’n berthnasol, codi cyfradd Premiwm Treth y Cyngor o 100% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor ar anheddau gwag hirdymor dynodedig a 100% ar ail gartrefi o 1 Ebrill 2025, yn unol â phenderfyniad y Cyngor ym mis Medi 2024; a
(c) Cymeradwyo swyddogion dynodedig i fynd ymlaen â chamau cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi heb eu talu.
Cyn ystyried y materion sy’n weddill, cynigiodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson gynnig gweithredol o dan adran 12(n) o’r Cyfansoddiad i atal Adran 4, Rheol Sefydlog 8 - bod y cyfarfod yn dod i ben am 5.00pm. Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Sam Swash.
O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd y cynnig.