Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking
Cyfarfod: 20/02/2025 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 56)
56 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Amg. 1, eitem 56
PDF 92 KB
- Amg. 2, eitem 56
PDF 47 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith (eitem rhif 4 ar y rhaglen) i’w hystyried, a oedd yn cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu oedd i’w cwblhau. Dywedodd y byddai Ymweliadau Rota yn cael eu cynnal ag Aelodau’r Pwyllgor ac y byddai adroddiad ar Garbon Sero ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod ym mis Mawrth. Cadarnhaodd y byddai’r gân roedd Marleyfield House wedi’i recordio gyda gr?p Celfyddydau a Cherddoriaeth ar sut y gwnaeth y pandemig eu heffeithio, yn cael ei hanfon at yr Aelodau fel y gofynnwyd mewn cyfarfod blaenorol.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau a fynychodd yr Ymweliad Climbie yn Swyddfeydd y Fflint ar 17 Chwefror.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor wedi nodi’r cynnydd a wnaed ar gyflawni’r camau gweithredu heb eu cwblhau.