Mater - cyfarfodydd
Childcare and Early Years Capital Programme 2025-2028
Cyfarfod: 20/02/2025 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 58)
58 Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2025-2028 PDF 162 KB
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth a chefnogaeth yr Aelodau ar gyfer y safleoedd sydd wedi’u nodi gan Dîm Cyfalaf y Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd, ac ar gyfer dechrau’r gwaith sgrinio cynnar cyn-adeiladu ar gyfer y safleoedd arfaethedig, er mwyn sicrhau cyllid drwy gyflwyno Achosion Cyfiawnhau Busnes i Lywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Ganolfan i Deuluoedd adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) i geisio cymeradwyaeth a chefnogaeth yr Aelodau ar gyfer y safleoedd a oedd wedi’u nodi gan Dîm Cyfalaf y Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd, ac ar gyfer dechrau’r gwaith sgrinio cynnar cyn-adeiladu ar gyfer y safleoedd arfaethedig, er mwyn sicrhau cyllid drwy gyflwyno Achosion Cyfiawnhau Busnes i Lywodraeth Cymru.
Cytunodd i ddosbarthu rhestr o ffrydiau cyllido i’r Aelodau ac mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Mackie, cytunodd i gwrdd ag ef y tu allan i’r cyfarfod ar gyfer trafodaethau pellach.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r safleoedd cyfalaf a nodwyd yn Sir y Fflint at ddiben sicrhau’r Grant Cyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2025-2028 (cam 3) gan Lywodraeth Cymru; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith sgrinio cynnar cyn-adeiladu a chyflwyno Achos Cyfiawnhau Busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer y safleoedd arfaethedig.