Mater - cyfarfodydd
Dyfodol y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig
Cyfarfod: 05/12/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 36)
36 Dyfodol y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig PDF 95 KB
Pwrpas: Ystyried cynnig i ddod â phartneriaeth y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig gyda BIPBC (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) i ben. Byddai hyn yn golygu tynnu Gweithwyr Cymdeithasol o dri o dimau’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a’u lleoli ochr yn ochr â’r Tîm Llesiant ac Adfer o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu ragarweiniad i’r adroddiad, a chyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Anabledd yr adroddiad (eitem rhif 11 ar y rhaglen) i’r Aelodau ystyried cynnig i roi’r gorau i bartneriaeth Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol integredig â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Aelodau’n derbyn y cynnig yn yr adroddiad; a
(b) Bod yr Aelodau’n penderfynu ar y broses i gael cefnogaeth wleidyddol i’r cynnig.