Mater - cyfarfodydd

Adolygiad Cynaliadwyedd Ariannol - Archwilio Cymru

Cyfarfod: 25/11/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 44)

44 Adolygiad Cynaliadwyedd Ariannol - Archwilio Cymru pdf icon PDF 102 KB

Cynghori ar yr adroddiad terfynol a gafwyd gan Archwilio Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen) yn amlinellu canfyddiadau adroddiad lleol gan Archwilio Cymru, yn dilyn adolygiad ar draws y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.  Mae Atodiad 2 yr adroddiad hwn yn nodi ymateb y Cyngor i’r argymhelliad gan Archwilio Cymru.

 

Crynhodd Carwyn Rees o Archwilio Cymru y prif ganfyddiadau a dweud bod yr adroddiad cenedlaethol i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y byddai gwybodaeth am brosiectau Trawsnewid yn cael ei rhannu gyda’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Rhagfyr.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad ar Gynaliadwyedd Ariannol gan Archwilio Cymru.