Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor (2023-28) 2024/25
Cyfarfod: 17/01/2025 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 46)
46 Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor (2023-28) 2024/25 PDF 106 KB
Pwrpas: Adolygu a monitro perfformiad canol blwyddyn y Cyngor, gan gynnwys camau gweithredu a mesurau, fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor (2023-28) ar gyfer 2024/25.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Council Plan (2023-28) Mid-year Performance Report 2024/25 (S&HC OSC), eitem 46
PDF 359 KB
- Enc. 2 for Council Plan (2023-28) Mid-year Performance Report 2024/25 (S&HC OSC), eitem 46
PDF 143 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Canol Blwyddyn ar Berfformiad Cynllun y Cyngor (2023-28) 2024/25
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) i’r Aelodau adolygu a monitro perfformiad y Cyngor ar ganol blwyddyn 2024/25, gan gynnwys camau gweithredu a mesuryddion, fel yr oedd Cynllun y Cyngor (2023-28) yn ei nodi.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol wrth yr Aelodau fod gweithdy ar Gynllun y Cyngor wedi’i drefnu ar gyfer yr holl Aelodau ym mis Ebrill 2025. Awgrymodd hefyd y dylai cynlluniau yn y dyfodol gynnwys materion ar draws portffolios yn rhan greiddiol ohonynt, gan ddangos y cyfrifoldeb sydd ar draws portffolios e.e. caffael.
Dywedodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu wrth yr Aelodau y byddai adroddiad arbennig ar y siwrnai i sero net o safbwynt y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn
cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r
blaenoriaethau oedd yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 i’w
cyflawni o fewn 2024/25;
(b) Bod y Pwyllgor yn
cefnogi’r perfformiad cyffredinol ar ddangosyddion / mesurau
perfformiad Cynllun y Cyngor 2024/25; a
(c) Bod y Pwyllgor yn fodlon â’r esboniadau a roddwyd ar gyfer y meysydd lle bu tanberfformiad.