Mater - cyfarfodydd
Gweithredu Newidiadau i’r Casgliadau Gwastraff Gweddilliol ac Adolygu’r Polisi
Cyfarfod: 19/11/2024 - Cabinet (eitem 11.)
11. Gweithredu Newidiadau i’r Casgliadau Gwastraff Gweddilliol ac Adolygu’r Polisi PDF 115 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet gyda throsolwg o’r cynllun gweithredu a chyfathrebu er mwyn newid i fodel casglu gwastraff gweddilliol bob tair wythnos a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer y polisi gweithredol cysylltiedig ar gasgliadau ailgylchu a gwastraff a’r ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref wedi’i ddiweddaru.
Dogfennau ychwanegol:
- Amg. 1, eitem 11. PDF 110 KB
- Amg. 2, eitem 11. PDF 102 KB
- Amg. 3, eitem 11. PDF 345 KB
- Amg. 4, eitem 11. PDF 434 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Gweithredu Newidiadau i’r Casgliadau Gwastraff Gweddilliol ac Adolygu’r Polisi
Penderfyniad:
(a) Cymeradwyo'r dyddiad gweithredu arfaethedig ar gyfer newid amlder casglu gwastraff gweddilliol a gymeradwywyd eisoes;
(b) Nodi'r cynllun gweithredu arfaethedig, a chefnogi'r gwaith a wnaed hyd yma;
(c) Nodi'r cynllun cyfathrebu;
(d) Nodi'r Polisi Gweithrediadau Canolfannau Ailgylchu a Chasgliadau Gwastraff y Cartref wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau a gymeradwywyd yn flaenorol i wasanaethau; a
(e) Nodi'r Polisi Trwyddedau Cerbydau Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi'i ddiweddaru sydd i'w gyhoeddi yn dilyn mabwysiadu gweithdrefnau diwygiedig a roddwyd ar waith i gefnogi cwsmeriaid ag anableddau a allai fod angen defnyddio'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref gan ddefnyddio eu cerbydau.