Mater - cyfarfodydd

Theatr Clwyd a’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Ysgolion

Cyfarfod: 28/11/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 46)

46 Theatr Clwyd a’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Ysgolion pdf icon PDF 146 KB

Derbyn adroddiad yngl?n â chyfranogiad pobl ifanc yng ngweithgareddau Theatr Clwyd yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y Gwasanaeth Cerddoriaeth Ysgolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Theatr Clwyd a Chyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth Theatr Clwyd adroddiad (eitem rhif 6 ar y rhaglen) a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a throsolwg o waith Theatr Clwyd gyda phobl ifanc yn dilyn symud yr holl weithgareddau i ymddiriedolaeth elusennol annibynnol yn 2021.

 

Cefnogwyd yr argymhellion a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi datblygiad Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd ac Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd ers eu creu yn 2021;

 

(b)       Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau bod Ymddiriedaeth Theatr Clwyd a’r Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth yn cyflawni gwaith gyda phobl ifanc yn Sir y Fflint mewn lleoliadau addysg ffurfiol ac mewn meysydd darpariaeth eraill, ac yn parhau i adeiladu ar y Cynllun Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol.

 

(c)        Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar ran y Pwyllgor i ofyn am ymrwymiad i setliadau ariannol aml-flwyddyn ar gyfer y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol; a

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn gofyn i Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd weithio tuag at wneud y gwasanaeth cerddoriaeth yn hygyrch i bawb.