Mater - cyfarfodydd

Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Digartrefedd Sir y Fflint

Cyfarfod: 15/10/2024 - Cabinet (eitem 6.)

6. Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Digartrefedd Sir y Fflint pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Cabinet am gynnydd o ran yr Adolygiad Annibynnol a gwblhawyd gan Neil Morland ac amlinellu arbedion effeithlonrwydd posibl trwy amrywio Portffolio Llety Digartrefedd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a)       Nodi canfyddiadau ac argymhellion Neil Morland & Co. a chefnogi'r adroddiad i symud ymlaen drwy'r cylch pwyllgorau gyda diweddariadau rheolaidd i'w rhannu gyda'r Aelodau o ran cynnydd yn erbyn argymhellion;

 

(b)       Derbyn yr egwyddor o osgoi costau ac effeithlonrwydd gwario i arbed i ariannu capasiti staffio ychwanegol o fewn y Gwasanaeth Tai ac Atal trwy arallgyfeirio'r portffolio llety digartref, i uchafu'r cyfle i leihau gwariant ar lety digartref yn llwyddiannus; a

 

(c)       Cydnabod yr angen am fodelau tai a rennir a Thai Amlfeddiannaeth (HMOs) o fewn y cynlluniau arallgyfeirio llety digartref.