Mater - cyfarfodydd

Comisiynu Cwmni Eiddo D2 – Gwasanaethau Llety i Bobl Ddigartref

Cyfarfod: 19/11/2024 - Cabinet (eitem 7.)

7. Comisiynu Cwmni Eiddo D2 – Gwasanaethau Llety i Bobl Ddigartref pdf icon PDF 152 KB

Pwrpas:        Cael caniatâd i ymgysylltu â’r cwmni uchod at ddibenion darparu gwasanaethau llety i bobl ddigartref ar gyfer hyd at 50 aelwyd sy’n profi digartrefedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a) Nodi'r gwaith a wnaed i adnabod darpar ddarparwyr gwasanaeth rheoli tai dwys ar gyfer llety digartref;

 

(b) Nodi canlyniad yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) o ran profi'r farchnad; a

 

(c) Cymeradwyo'r dyfarniad uniongyrchol i D2 PropCo, i'w cyflogi fel partner i ddarparu datrysiad rheoli tai dwys ar gyfer llety digartref.