Mater - cyfarfodydd
Ymestyn y Ddarpariaeth Adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol Arbenigol yn y Rhwydwaith Addysg Uwchradd
Cyfarfod: 15/10/2024 - Cabinet (eitem 95)
Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cefnogaeth Tîm y Prif Swyddog i fwrw ymlaen â chymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer y cynnig i ymestyn y ddarpariaeth adnoddau arbenigol yn y rhwydwaith addysg uwchradd.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Expansion of Specialist Additional Learning Needs Resource Provision within the Secondary Education Network, eitem 95
PDF 42 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Ymestyn y Ddarpariaeth Adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol Arbenigol yn y Rhwydwaith Addysg Uwchradd
Penderfyniad:
(a) Cefnogi’r cais i ehangu darpariaeth adnoddau ADY arbenigol y Cyngor o fewn y rhwydwaith addysg uwchradd; a
(b) Cefnogi cyhoeddi hysbysiad statudol ar gyfer cyflwyno darpariaeth adnoddau ADY newydd yn Ysgol Uwchradd y Fflint ac Ysgol Uwchradd Penarlâg.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad (eitem agenda rhif 16) ar Ehangu'r Ddarpariaeth Adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol Arbenigol o fewn y Rhwydwaith Addysg Uwchradd, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i'r ehangiad arfaethedig.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD: