Mater - cyfarfodydd

Ymateb i Adolygiad Archwilio Cymru “Gofal Brys ac Argyfwng: Llif Allan o’r Ysbyty – Rhanbarth Gogledd Cymru”

Cyfarfod: 05/12/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 33)

33 Ymateb i Adolygiad Archwilio Cymru “Gofal Brys ac Argyfwng: Llif Allan o’r Ysbyty - Rhanbarth Gogledd Cymru” pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Cyflwyno canfyddiadau ac ymateb y cyngor i adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o’r trefniadau i gefnogi llif effeithiol o ysbytai yn rhanbarth Gogledd Cymru y manylir arnynt yn “Gofal Brys ac Argyfwng: Llif Allan o’r Ysbyty – Rhanbarth Gogledd Cymru”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Pobl H?n adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) i’r Aelodau ystyried adroddiad Archwilio Cymru a’r mesurau a roddwyd ar waith yn rhanbarthol ac yn lleol i weithredu unrhyw argymhellion.

 

Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i rannu cynlluniau gweithredu yn unol â chais y Cynghorydd Copple, ac y darperid adroddiad diweddaru arall ym mis Gorffennaf 2025.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod yr Aelodau’n ystyried adroddiad Archwilio Cymru a’r mesurau a roddwyd ar waith yn rhanbarthol ac yn lleol i weithredu’r argymhellion a wnaed; a

 

(b)       Bod yr Aelodau’n nodi y rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y cynnydd a wnaed wrth weithredu’r argymhellion.