Mater - cyfarfodydd
Y diweddaraf ar y Grant Rhwydwaith Bysiau a Gwasanaethau Bws Lleol yn Sir y Fflint
Cyfarfod: 15/10/2024 - Cabinet (eitem 11.)
11. Y diweddaraf ar y Grant Rhwydwaith Bysiau a Gwasanaethau Bws Lleol yn Sir y Fflint PDF 106 KB
Pwrpas: Adroddiad diweddaru ar y trefniadau ariannu ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol drwy’r Grant Rhwydwaith Bysiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Hysbysu aelodau o’r opsiynau sydd ar gael i fynd i’r afael â’r diffyg o £270k ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol yn Sir y Fflint, yn ogystal â phwysau pellach o £47k i fynd i’r afael â’r diffyg yn y Grant Rhwydwaith Bysiau ar draws rhanbarth ehangach gogledd Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Update on the Bus Network Grant and Local Bus Services in Flintshire, eitem 11. PDF 97 KB
- Appendix 2 - Update on the Bus Network Grant and Local Bus Services in Flintshire, eitem 11. PDF 194 KB
- Appendix 3 - Update on the Bus Network Grant and Local Bus Services in Flintshire, eitem 11. PDF 58 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Y diweddaraf ar y Grant Rhwydwaith Bysiau a Gwasanaethau Bws Lleol yn Sir y Fflint
Penderfyniad:
(a) Cydnabod a chefnogi'r cynigion yn yr adroddiad;
(b) Bod y Cabinet yn cael gwybod y bydd unrhyw oedi yn cynrychioli pwysau cyllidebol ar gyfer Gwasanaethau Stryd a Chludiant a'r awdurdod yn 2025/26; a
(c) Nodi’r gofyniad i ganiatáu 56 diwrnod o rybudd i’r Comisiwn Traffig (78 diwrnod ar gyfer gwasanaethau i Loegr) ar gyfer unrhyw newidiadau a/neu derfynu gwasanaethau bysiau.