Mater - cyfarfodydd
Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023-24 a pherfformiad cwynion hanner blwyddyn 2024-25
Cyfarfod: 25/11/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 42)
Rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023-24 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint a throsolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor rhwng 1 Ebrill 2024 - 30 Medi 2024.
Dogfennau ychwanegol:
- Amg. 1, eitem 42
PDF 227 KB
- Amg. 2, eitem 42
PDF 118 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023-24 a pherfformiad cwynion hanner blwyddyn 2024-25
Cofnodion:
Cyflwynodd Prif Swyddog (Llywodraethu) a Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid
adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) ar Lythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n crynhoi perfformiad y Cyngor ar y cwynion yr ymchwiliwyd iddynt yn ystod 2023-24. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys trosolwg o’r cwynion a gafwyd fesul portffolio yn ystod hanner cyntaf 2024-25.
Yr oedd hwn yn adroddiad cadarnhaol lle croesewid olrhain camau gweithredu yn arbennig. Nododd swyddogion yr awgrym i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys mwy o fanylion yngl?n â natur y cwynion yn Atodiad 1.
Cefnogwyd yr argymhellion ynghyd â chynnig ychwanegol i groesawu’r gwersi a ddysgwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad blynyddol gwell y Cyngor mewn perthynas â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2023-24;
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad hanner blwyddyn (2024-25) y Cyngor o ran cwynion a wnaed i wasanaethau yn unol â’r Polisi Pryderon a Chwynion;
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd ym mharagraff 1.25; a
(d) Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn croesawu’r gwersi a ddysgwyd.