Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Diweddaru’r Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd, Chwarae ac Amgueddfeydd
Cyfarfod: 09/09/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 28)
Adroddiad Diweddaru’r Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd, Chwarae ac Amgueddfeydd
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ddatblygiadau a chynnydd â wnaed ers i’r adroddiadau gael eu cyflwyno ddiwethaf ym mis Mai.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (28/2)
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Diweddaru’r Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd, Chwarae ac Amgueddfeydd
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Strategol yr adroddiad a amlinellodd y cynnydd a wnaed o ran archwilio trefniant grant newydd gydag Aura, ac asesiad rheoli cymhorthdal sy’n cydymffurfio cysylltiedig.
Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Preece yr argymhellion diwygiedig canlynol, a eiliwyd gan y Cynghorydd Bill Crease:-
· Bod cyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn cael ei gynnal cyn gynted ag y bo modd, a chyn y cyfarfod Cabinet nesaf;
· Bod y Pwyllgor angen i gopi o’r contract a gynigiwyd i Aura gael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwnnw, neu ei rannu ag Aelodau’r Pwyllgor cyn y cyfarfod, ynghyd â’r holl ddogfennau angenrheidiol eraill; a
· Tra’n aros am y cyfarfod hwn, bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn argymell yn gryf bod cytundeb newydd ar delerau rhesymol yn cael ei lofnodi gydag Aura.
Adroddodd yr Hwylusydd y cynghorwyd y Cynghorydd Preece, cyn y cyfarfod, nad oedd yn briodol darparu copi o’r contract i’r Aelodau. Rhoddodd y Cynghorydd Preece yr ymateb yr oedd wedi’i roi i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod i’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Cynnal cyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant cyn gynted ag y bo modd, a chyn y cyfarfod Cabinet nesaf;
(b) Bod y Pwyllgor angen i gopi o’r contract a gynigiwyd i Aura gael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwnnw, neu ei rannu ag Aelodau’r Pwyllgor cyn y cyfarfod, ynghyd â’r holl ddogfennau angenrheidiol eraill; a
(c) Tra’n aros am y cyfarfod hwn, bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn argymell yn gryf bod cytundeb newydd ar delerau rhesymol yn cael ei lofnodi gydag Aura.