Mater - cyfarfodydd
Funding and Investment Performance
Cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 19)
19 Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid a Pherfformiad Buddsoddi PDF 120 KB
Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor ynghylch yr economi a’r farchnad, y sefyllfa ariannu gyfredol, a pherfformiad buddsoddi’r Gronfa.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Funding and Investment Performance, eitem 19
PDF 378 KB
- Enc. 2 for Funding and Investment Performance, eitem 19
PDF 786 KB
- Enc. 3 for Funding and Investment Performance, eitem 19
PDF 547 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid a Pherfformiad Buddsoddi
Cofnodion:
Cyflwynodd Mr Turner a Mr Middleman yr adroddiad hwn.
Cyflwynodd Mr Middleman y sefyllfa ariannu ac eglurodd y set lawn o ‘oleuadau traffig gwyrdd’ yn yr atodiad llwybr hedfan gyda phopeth yn gweithio fel y disgwyl.
Fe arweiniodd Mr Turner y Pwyllgor drwy uchafbwyntiau buddsoddiad a pherfformiad, yn cynnwys:
- Sefyllfa gadarnhaol ar gyfer asedau sy’n ceisio elw.
- Tanberfformiad Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru - cafwyd eglurhad fod y Gronfa wedi bod yn buddsoddi yn yr is-gronfa hon am gyfnod cymharol fyr o un flwyddyn, ac mae casgliad ystyrlon o berfformiad angen o leiaf 3 blynedd. Y prif reswm am y tanberfformiad hyd yn hyn oedd dyraniad annigonol mewn stociau sy’n gysylltiedig â thechnoleg gwerth uchel yn yr UDA.
- Fe berfformiodd y Credyd Aml-ased a Dyrannu Asedau Tactegol yn unol â disgwyliadau, ac nid oedd yna bryderon sylweddol am farchnadoedd preifat.
- Mae’n ymddangos bod dyraniad arian y Gronfa yn gymharol uchel, ond mae hyn i’w ddisgwyl yn dilyn newidiadau strategol ers gweithgarwch lleihau risg yn gynharach yn y flwyddyn. O ystyried symudiadau asedau, roedd disgwyl y byddai’r dyraniad arian yn gostwng yn unol â tharged y Gronfa dros y misoedd i ddod.
Fe soniodd y Cynghorydd Palmer am sefyllfa ariannu 108% a gofynnodd petai’r sefyllfa hon wedi newid yn sylweddol, a fyddai’r effaith yn disgyn ar gyflogwyr a’u cyllidebau? Cadarnhaodd Mr Middleman ei bod yn bosibl y gallai hyn ddigwydd petai’n disgyn o dan y lefel ariannu disgwyliedig gan y byddai unrhyw fwlch mewn ariannu yn disgyn ar gyflogwyr. Fe allai ffactorau eraill effeithio ar y sefyllfa yma hefyd ac fe fyddai hyn yn cael ei ystyried yn rhan o’r prisiad. Dywedodd Mr Middleman hefyd fod sefydlogrwydd yn cael ei gefnogi gan y strategaeth llwybr hedfan sydd ar waith. Mae hyn yn darparu rhywfaint o amddiffyniad i’r sefyllfa ariannu ac yn cyfrannu at sefydlogrwydd. Dywedodd y Cynghorydd Palmer mai dim ond ar gyfraniadau cyflogwyr y byddai hyn yn effeithio, ac nid cyfraniadau gweithwyr, ond cadarnhaodd Mr Middleman fod cyfraniadau aelodau’n cael eu gosod gan y Llywodraeth, nid y Gronfa.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn gwneud sylwadau ar y diweddariad.