Mater - cyfarfodydd

Clwyd Pension Fund Annual Report and Accounts 2023/24

Cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 15)

15 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2023/24 pdf icon PDF 108 KB

Darparu Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer 2023/24 i'r Pwyllgor eu hystyried a gwneud sylwadau arnynt, a gwneud yr Aelodau'n ymwybodol o'r ymateb i Lythyr Ymholiadau Archwilio 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe arweiniodd Mr Bateman y Pwyllgor drwy’r adroddiad yma gan ddweud:

-       Bod angen i’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon a archwiliwyd gael eu cyhoeddi cyn 1 Rhagfyr bob blwyddyn. Mae’r Swyddog Adran 151 wedi adolygu’r cyfrifon a chadarnhau ei fod yn hapus gyda’u hansawdd a’r tybiaethau sylfaenol cyn eu cyflwyno i Archwilio Cymru.

-       Cafodd canllaw cenedlaethol ar adroddiadau blynyddol cronfa bensiynau CPLlL ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2024, ac yn ôl y canllaw, mae’r Gronfa wedi gwneud ei gorau i gydymffurfio heblaw lle byddai’r ymdrech neu gost angenrheidiol yn anghymesur. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i strwythur yr adroddiad yn seiliedig ar ganllaw sydd â’r bwriad o wneud adroddiadau blynyddol y gronfa bensiynau yn fwy unffurf ar draws y CPLlL.

-       Diolchodd i’r rheini a fu’n rhan o baratoi fersiwn ddrafft yr adroddiad blynyddol a gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor roi nodiadau a sylwadau. Bydd y Gronfa yn parhau i weithio gydag Archwilio Cymru i ddarparu Adroddiad Blynyddol terfynol wedi’i archwilio. Bydd unrhyw ddiwygiadau yn cael eu hadrodd yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd ynghyd â Barn Archwilio ffurfiol, a bydd swyddogion yn argymell cymeradwyo’r ddogfen derfynol.

-       Mae’r gwaith o archwilio’r Cyfrifon Blynyddol wedi dechrau ac nid oes unrhyw faterion sylweddol wedi’u codi hyd yn hyn. Cafodd yr adroddiad drafft ei gyflwyno i Archwilio Cymru erbyn y dyddiad cau ar 1 Awst 2024, ond nid yw wedi cael ei archwilio eto.

 

Fe arweiniodd Mr Bateman y Pwyllgor drwy rannau cyntaf yr Adroddiad Blynyddol.

Cyflwynodd Mrs McWilliam adroddiad yr ymgynghorydd annibynnol, ac Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Pensiynau. Diolchodd i aelodau’r Bwrdd am eu gwaith ac ymrwymiad i’r Gronfa, a diolchodd i’r Pwyllgor a’r swyddogion am weithio’n agored gyda’r Bwrdd a chroesawu’r ffaith ei fod yn ymwneud â’r Gronfa.  I gloi dywedodd fod yna reolaeth eithriadol o’r Gronfa ac roedd 2023-24 yn flwyddyn lwyddiannus arall o safbwynt llywodraethu, ac fe soniodd am y risg yn sgil maint y gwaith sy’n gysylltiedig â datblygiadau cenedlaethol sydd y tu hwnt i reolaeth y Gronfa.

Fe arweiniodd Mr Bateman y Pwyllgor drwy’r adroddiad ariannol a chyfrifon, yma gan ddweud:

-       Roedd yna welliant yng ngwerth ased net o 2.3 biliwn i 2.48 biliwn, yn bennaf oherwydd symudiad cadarnhaol yn y farchnad.

-       Llai o gyfraniadau yn sgil canlyniad Prisiad Actiwaraidd 2022.

-       Mwy o bensiynau yn daladwy yn sgil cynnydd chwyddiant mewn pensiynau ym mis Ebrill 2023.

-       Mwy o wariant yn gyffredinol o’i gymharu ag incwm ac eithrio ffioedd ac incwm buddsoddi. Roedd hyn yn cyd-fynd yn unol â’r amcanestyniad.

-       Trosolwg o berfformiad a ffioedd buddsoddi.

-       Y sefyllfa gyllido a amcangyfrifwyd oedd 109% ar 31 Mawrth 2024.

 

Yn olaf, gofynnodd i Aelodau nodi’r ymateb drafft i Lythyr Ymholiadau Archwilio gan Archwilio Cymru ar gyfer 2023-24.

Fe soniodd y Cynghorydd Wedlake am y sylwadau oedd yn ymwneud â thanberfformiad yn erbyn y meincnod ar dudalen 119. Roedd yn cydnabod bod angen edrych ar y darlun ehangach yn ymwneud â’r sefyllfa gyllido gadarnhaol, ond fe allai’r ffigurau ddynodi os ydi’r tueddiadau  ...  view the full Cofnodion text for item 15