Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 10/10/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 48)

48 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem 5 ar y rhaglen) ar Raglen Waith bresennol y Pwyllgor.   Cytunodd i gysylltu â’r Cadeirydd i drefnu’r eitemau a restrwyd yn adrannau 1.04 a 1.05 ynghyd ag eitemau eraill a godwyd gan Aelodau fel a ganlyn:

 

·         Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

·         Eitem reolaidd ar Drawsnewid gan gynnwys effaith ar Gydraddoldeb.

·         Eitem y gofynnwyd amdani o’r blaen ar yr adran Asedau.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Waith, fel y’i diwygiwyd; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.