Mater - cyfarfodydd
Datganiad Cyfrifon 2023/24
Cyfarfod: 25/11/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 43)
43 Datganiad Cyfrifon 2023/24 PDF 162 KB
Cyflwyno fersiwn derfynol wedi’i harchwilio o Ddatganiad Cyfrifon 2023/24 i gael eu cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
- Amg. 1, eitem 43
PDF 3 MB
- Amg. 2, eitem 43
PDF 638 KB
- Amg. 3, eitem 43
PDF 179 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Datganiad Cyfrifon 2023/24
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) i geisio cymeradwyaeth i fersiwn archwiliedig terfynol Datganiad Cyfrifon 2023/24. Diolchodd i’r Rheolwr Cyllid Strategol a’i dîm am eu gwaith ar hyn, ynghyd â chydweithwyr yn Archwilio Cymru. Amlygwyd mater cyfreithiol newydd yn ymwneud â sefydliad llywodraeth leol yr oedd y Cyngor yn un o’i aelodau. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor am eiriad ychwanegol am ddyled ddigwyddiadol i’w gynnwys yn y cyfrifon i adlewyrchu’r risg ar y cam hwn. Nodwyd y byddai briff ar y canlyniad yn cael ei ddarparu maes o law.
Wrth grynhoi’r adroddiad gan Archwilio Cymru, diolchodd Mike Whiteley i aelodau’r tîm Cyllid am eu cefnogaeth yn ystod yr archwiliad.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi adroddiad Archwilio Cymru ‘Archwiliad o’r Datganiadau Ariannol 2023/24 – Cyngor Sir y Fflint’;
(b) Cymeradwyo fersiwn terfynol Datganiad Cyfrifon 2023/24, ar ôl ystyried adroddiad Archwilio Cymru; a
(c) Chymeradwyo’r Llythyr Sylwadau.