Mater - cyfarfodydd
Y Diweddaraf am Ddiwygio’r Gyfundrefn Les
Cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 21)
21 Costau Byw a Diwygio’r Gyfundrefn Les PDF 206 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles a’r gwaith sy’n cael ei wneud i liniaru’r effeithiau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) adroddiadi ddarparu gwybodaeth am effeithiau Diwygio’r Gyfundrefn Les, a’r argyfwng costau byw ar breswylwyr, a’r ystod o fesurau sy’n cael eu gweithredu i helpu’r sawl a effeithir arnynt er mwyn ceisio, pan fo’n bosibl, lliniaru’r effeithiau negyddol.
Argymhellodd y Cynghorydd Helen Brown argymhelliad ychwanegol, sef llythyr gan y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, i’w anfon at y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, yn gofyn bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i dynnu’r dreth ystafell wely greulon, a fyddai’n tynnu pobl allan o’r argyfwng costau byw.
Yn dilyn cwestiwn am y lwfans tanwydd gaeaf, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) y byddai’n anfon dolen i wefan y Cyngor yn dangos gwybodaeth a lleoliadau canolfannau clyd ledled y Sir i’r Pwyllgor, ar ôl y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith y mae diwygio’r gyfundrefn les a’r argyfwng costau byw yn eu cael, ac y byddant yn parhau i’w cael, ar rai o’r preswylwyr mwyaf diamddiffyn; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi'r mesurau cymorth a roddwyd ar waith drwy Lywodraeth Cymru a’r Cyngor i liniaru'r effeithiau
(c) Bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, yn gofyn bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i dynnu’r dreth ystafell wely greulon, a fyddai’n tynnu pobl allan o’r argyfwng costau byw.