Mater - cyfarfodydd
Incwm Rhent Tai
Cyfarfod: 11/09/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai (eitem 20)
Pwrpas: Cyflwyno’r diweddariad gweithredol diweddaraf ar gasglu rhent tai ac amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Polisi Adennill Dyled Corfforaethol i gryfhau’r broses orfodi rhent.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael adroddiad ar ddiweddariad gweithredol ar gyfer cyfraddau casglu rhent tai, gan gynnwys sefyllfa derfynol diwedd blwyddyn rhent 2023/24, a safle presennol 2024/25.
Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Helen Brown, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael i siarad â’r Rheolwr Gwasanaeth (Asedau Tai) yn dilyn cyfarfod i drafod pa setiau data ynghylch colledion Treth y Cyngor y gellir eu darparu mewn adroddiadau diweddaru yn y dyfodol.
Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael, Dave Barnes i ddarparu dadansoddiad o ddiddymiadau hefyd, a fyddai’n cynnwys gwybodaeth o’r rhesymau am y diddymiadau mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dale Selvester, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael i adolygu pa setiau data y gellir eu darparu ynghylch effaith ariannol o beidio casglu cyfraddau d?r erbyn hyn.
Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y Cynghorydd Dale Selvester, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth - Refeniw a Chaffael i ddarparu dadansoddiad dienw o rhai o’r achosion o ôl-ddyledion uchaf mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd darparu enghraifft o Gontract Tenantiaeth i’r Pwyllgor. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth (Lles Tai a Chymunedau) i ddarparu hyn yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi sefyllfa derfynol diwedd blwyddyn 2023/24 a’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer casgliadau rhent 2024/25.