Mater - cyfarfodydd
Parth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam
Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 46)
46 Parth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam PDF 124 KB
Pwrpas: Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ag Aelodau ynghylch datblygiad Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam hyd yma a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer y camau nesaf sydd eu hangen i fynd â’r rhaglen drwy broses Porth ar y cyd y DU / LlC.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Investment Zone for Flintshire and Wrexham, eitem 46 PDF 361 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Parth Buddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam
Cofnodion:
Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad, a oedd yn darparu crynodeb o’r rhaglen Parth Buddsoddi a’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran ei datblygiad yn Sir y Fflint a Wrecsam. Er bod y cyhoeddiad am Etholiad Cyffredinol wedi peri rhywfaint o ansicrwydd yn ystod y broses, mae gwaith datblygu ar y Parth Buddsoddi wedi parhau, yn barod ar gyfer trafodaeth bellach gyda’r ddwy lywodraeth ar ôl yr etholiad.
Byddai’r Parth Buddsoddi yn canolbwyntio ar y clwstwr o fusnesau gweithgynhyrchu uwch sydd o bwys cenedlaethol yn Sir y Fflint a Wrecsam, fel bod modd i’r sector ffynnu, ehangu, cynyddu sgiliau a chyflogau a chyfrannu mwy at economi’r rhanbarth.
Dewiswyd Gweithgynhyrchu Uwch fel y sector y byddai Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn ei gefnogi, yn seiliedig ar y data sydd ar gael a dadansoddiad gan y ddwy lywodraeth yn dangos graddfa a phwysigrwydd y clwstwr presennol hwn.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dau Barth Buddsoddi ar gyfer Cymru yng Nghyllideb Gwanwyn 2023. Yn dilyn hyn, cadarnhaodd Datganiad yr Hydref ym mis Tachwedd 2023 y byddai Sir y Fflint a Wrecsam yn ymuno â Rhanbarth Dinas Caerdydd fel yr ail Barth Buddsoddi. Roedd hyn yn dilyn cyfnod o waith sylweddol, dan arweiniad arweinwyr busnes lleol, er mwyn amlygu sut roedd potensial ardal economaidd weithredol Sir y Fflint a Wrecsam yn cyd-fynd ag asesiad y ddwy lywodraeth o addasrwydd strategol gyda’r ymyrraeth polisi. Ar yr amod bod y cynnig Parth Buddsoddi yn bodloni gofynion penodol, roedd amlen gyllid o hyd at £160 miliwn ar gael i’r Parth Buddsoddi hwnnw am gyfnod o 10 mlynedd.
Roedd peth risg ynghlwm â’r dull a oedd yn cael ei fabwysiadu, ond credwyd bod modd ei liniaru, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Healey fod y Parth Buddsoddi arfaethedig wedi cael ei drafod ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar 16 Gorffennaf 2024. Er eu bod yn cefnogi’r argymhellion, cododd nifer o’r Aelodau bryderon, a rhoddir sylw iddynt yn yr adroddiad. Rhoddodd y Cynghorydd Healey ymateb manwl i’r pryderon a godwyd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cydnabod cynnydd y gwaith ar y Parth Buddsoddi ac yn cefnogi’r Cyngor i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig i weithio mewn perygl drwy’r Pyrth gofynnol a amlinellir dros y chwe mis nesaf, er mwyn sicrhau cyllid o £160 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf.