Mater - cyfarfodydd
Strategaeth Ymgysylltiad Cwsmeriaid
Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 34)
34 Strategaeth Ymgysylltiad Cwsmeriaid PDF 167 KB
Pwrpas: To consider the Customer Involvement Strategy. / I ystyried y Strategaeth Ymgysylltiad Cwsmeriaid.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Customer Involvement Strategy, eitem 34 PDF 230 KB
- Enc. 2 for Customer Involvement Strategy, eitem 34 PDF 84 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Ymgysylltiad Cwsmeriaid
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Sean Bibby yr adroddiad, a oedd yn pennu’r Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid.
Roedd Gwasanaeth Tai Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am fwy na 7,300 o gartrefi ledled y sir, gan gynnwys llety anghenion cyffredinol a llety gwarchod. Er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli’r cartrefi hynny, roedd yn bwysig rhoi cyfle i gwsmeriaid rannu eu profiadau o ran y gwasanaethau hynny.
Daeth yr hen Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid i ben yn 2021 ac roedd y Cyngor wedi gweithredu strategaeth dros dro tra bo’r strategaeth ddrafft newydd yn cael ei datblygu a’r Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr yn cael ei gwblhau. Mae’r strategaeth ddrafft newydd yn nodi’r ymrwymiad i ymgysylltu â thenantiaid ac yn amlygu’r gwaith sydd ei angen i wella ein sefyllfa bresennol.
Roedd rhagor o waith wedi’i wneud er mwyn datblygu a chwblhau’r strategaeth lawn ac roedd yr adroddiad yn nodi’r prif fanylion.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn cymeradwyo’r Strategaeth Ymgysylltu â Thenantiaid.