Mater - cyfarfodydd
Diweddariad ar yr Adolygiad o Dai Gwarchod
Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 42)
42 Diweddariad ar yr Adolygiad o Dai Gwarchod PDF 101 KB
Pwrpas: Diweddariad ar yr Adolygiad o Dai Gwarchod.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Sheltered Housing Review Update, eitem 42 PDF 101 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad ar yr Adolygiad o Dai Gwarchod
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby’r adroddiad a oedd yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr adolygiad o dai gwarchod, a oedd yn mabwysiadu dull cyfannol o ran cynaliadwyedd y stoc o dai gwarchod ac roedd wedi’i ddylunio i adolygu pob cynllun o:-
- Safbwynt rheoli asedau - nodi anghenion buddsoddi pob cynllun nawr ac yn y dyfodol, gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru; ystyriaethau datgarboneiddio a chydymffurfio; a
- Safbwynt rheoli tai - mynd i’r afael ag unrhyw alw / trosiant a materion dymunoldeb a phennu cynaliadwyedd pob cynllun.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Lles a Chymunedau) y byddai'r cynllun yn cael ei asesu yn erbyn matrics cynaladwyedd cymeradwy a fyddai'n arwain at ddyfarnu un argymhelliad o bedwar argymhelliad posibl, fel y nodir yn yr adroddiad.
Roedd yna 142 o gynlluniau yn Sir y Fflint, a oedd yn darparu cyfanswm o 2,641 uned o lety. Cynhaliwyd adolygiad bwrdd gwaith ac ymyl palmant trwyadl dros y misoedd diwethaf, a roddodd fwy o wybodaeth fanwl mewn perthynas â lleoliad a threfn y cynlluniau. O’r wybodaeth hon, cafodd llawer o ffrydiau gwaith eu datblygu a byddai pob ffrwd waith yn cael eu hasesu gan ddefnyddio’r matrics rheoli tai ac asedau, a byddai’r broses adolygu yn dilyn y cynllun cyfathrebu y cytunwyd arno.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn nodi cynnydd yr Adolygiad o Dai Gwarchod.