Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 (Terfynol)
Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 36)
36 Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 (Terfynol) PDF 114 KB
Pwrpas: Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Aelodau, sy’n cynnwys y datblygiadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Social Services Director's Annual Report 2023/24, eitem 36 PDF 2 MB
- Enc. 2 for Social Services Director's Annual Report 2023/24, eitem 36 PDF 88 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 (Terfynol)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24.
Roedd rhaid i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol lunio adroddiad blynyddol yn crynhoi ei farn am swyddogaethau gofal cymdeithasol a blaenoriaethau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella, fel sydd wedi’i ddeddfu yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae’n rhaid i’r adroddiad blynyddol werthuso perfformiad yr awdurdod lleol mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn adrodd. Dylai hefyd nodi amcanion mewn perthynas â hyrwyddo lles pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Roedd adroddiad 2023/24 yn dangos arferion a datblygiadau cadarnhaol, fel y nodir yn yr adroddiad.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi ystyried yr adroddiad a'r blaenoriaethau ar gyfer 2024/25, sydd wedi llywio ei raglen waith.
Lluniwyd cynllun a dyluniad yr adroddiad gan Double Click, sefydliad ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2023/24 a’r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.