Mater - cyfarfodydd
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Cyllideb 2025/26
Cyfarfod: 19/07/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 16)
16 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26 PDF 73 KB
Pwrpas: Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer y gofyniad ychwanegol cyllideb 2025/26 a’r strategaeth ac amserlen y gyllideb sy’n datblygu.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Cabinet report, eitem 16 PDF 364 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2025/26
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar gam cyntaf datblygu'r gyllideb ar gyfer 2025/26 cyn ei ystyried gan y Cabinet.
Byddai ymatebion ar wahân yn cael eu rhannu gyda'r Pwyllgor ar (i) y rhesymeg dros ariannu cludiant i ddisgyblion o'r tu allan i'r sir i Ysgol Uwchradd Gatholig Caer yn hytrach na defnyddio darpariaeth leol; (ii) y broses ar gyfer ymdrin â phobl sy'n datgan eu bod yn ddigartref heb unrhyw gysylltiad lleol; a (iii) manteision posibl yn deillio o Reoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Bod y sylwadau yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25, yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet pan fydd yn ystyried yr adroddiad.