Mater - cyfarfodydd
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Cyllideb 2025/26
Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 32)
32 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Cyllideb 2025/26 PDF 135 KB
Pwrpas: Cyflwyno’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer y gofyniad ychwanegol cyllideb 2025/26 a’r strategaeth ac amserlen y gyllideb sy’n datblygu.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Budget 2025/26 MTFS, eitem 32 PDF 131 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Cyllideb 2025/26
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Johnson yr adroddiad a oedd yn nodi’r pwysau a ragwelir o ran costauar gyfer 2025/26 mewn manylder.
Fel rhan o’r broses o osod y gyllideb ar gyfer 2024/25,roedd gofyniad cyllidebol ychwanegol cychwynnol o £28.251 miliwn yn cael ei ragweld ar gyfer 2025/26, a oedd yn seiliedig ar ragdybiaethau bras o ran cyflogau, comisiynu gofal cymdeithasol a phwysau hysbys arall ar y pryd. Roedd y rhagolwg ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 wedi’i ddiweddaru er mwyn ystyried y sefyllfa genedlaethol ddiweddaraf o ran cyflogau’r sector cyhoeddus, amcangyfrif o effaith y newidiadau i’r galw mewn gwasanaeth ac effeithiau chwyddiannol parhaus. Yn ystod y cyfnod cynnar hwn, roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos bod y Cyngor yn debygol o gael gofyniad cyllidebol ychwanegol o £37.778 miliwn ar gyfer 2025/26.
Roedd Atodiad A yn yr adroddiad yn nodi manylion yr holl bwysau o ran costau ar gyfer 2025/26, yn ogystal ag arwyddion cynnar o bwysau ar gyfer 2026/27 a 2027/28.
Cynhaliwyd dau gyfarfod briffio’r gyllideb ar 9 Gorffennaf, er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i’r Aelodau o’r sefyllfa ariannol a byddai cyfarfod briffio arall yn cael ei gynnal ym mis Medi, fel cyfle i gyfrannu at strategaeth gyllideb sy’n datblygu.
Dywedodd y Cynghorydd Johnson hefyd nad oedd unrhyw adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a fu’n ystyried yr adroddiad ar 19 Gorffennaf 2024.
Amlinellodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol grynodeb o’r pwysau o ran costau ar gyfer 2025/26, gan dynnu sylw at y Gofynion Cyllido Cenedlaethol (Dyfarniadau Cyflog) a’r pwysau costau portffolio ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Tai a Chymunedau. Nid oedd unrhyw effaith amcangyfrifedig o'r cynnig cyflog presennol wedi'i gynnwys yn y rhagolwg ar hyn o bryd a byddai'n cael ei fireinio unwaith y byddai'r canlyniad terfynol yn hysbys, boed yn un cadarnhaol neu negyddol. Gan fod lefelau chwyddiant yn llawer mwy sefydlog erbyn hyn, roedd y tybiaethau ar gyfer dyfarniad cyflog 2025/26 wedi'u gostwng i 4% o'r 5% a ddefnyddiwyd yn flaenorol yn y rhagolwg. Roedd twf sylweddol i’w weld o hyd yn y niferoedd sy’n datgan eu bod yn ddigartref ac angen llety dros dro. Oherwydd y cynnydd parhaus yn y galw, rhagwelwyd gorwariant o £2.9 miliwn ar gyfer 2024/25 a gofyniad cyllidebol ychwanegol posibl o tua £7.5 miliwn ar gyfer 2025/26, ac mae hynny wedi’i gynnwys yn y rhagolwg.
Hyd yma, ni ddarparwyd unrhyw ffigyrau dangosol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y brif ffrwd gyllido - Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer 2025/26. Fodd bynnag, roedd dadansoddiad annibynnol o gyllideb Llywodraeth Cymru yn rhybuddio, ar y gorau, mai dim ond cynnydd ymylol y gellid ei ddisgwyl. Felly, ar y cam hwn, fe ystyriwyd ei bod yn ddoeth cynllunio ar gyfer setliad arian gwastad. O ran cyd-destun, byddai pob cynnydd o 1% i’r AEF yn cynhyrchu £2.585 miliwn o gyllid ar gyfer cyllideb y Cyngor.
Gwnaeth y Cynghorydd Dave Healey sylw ar y dyfarniadau cyflog a drafodwyd yn genedlaethol heb unrhyw gyfeiriad at allu Llywodraeth Leol i’w hariannu. Roedd yn gobeithio y byddai cyllid ar gael er ... view the full Cofnodion text for item 32