Mater - cyfarfodydd

Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2023/24 a Diweddariad Ch1 2024/25

Cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 21)

21 Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2023/24 a Diweddariad Ch1 2024/25 pdf icon PDF 186 KB

1.      Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2023/24 drafft i'r Aelodau am sylwadau ac argymhellion i’r Cabinet ei gymeradwyo.

 

2.      Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion sy’n ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor hyd at ddiwedd mis Mehefin 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol yr adroddiad a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24 i’w adolygu a’i argymell i'r Cabinet, ynghyd â sefyllfa Chwarter 1 2024/25 er gwybodaeth.

 

Nododd Swyddogion y cais a gafwyd bod y sesiwn hyfforddiant nesaf ar Reoli’r Trysorlys yn cynnwys rhagor o eglurder am y graff meincnod atebolrwydd.

 

Cafodd yr argymhellion eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Nodi Adroddiad Blynyddol drafft Rheoli'r Trysorlys 2023/24, heb unrhyw faterion i’w tynnu i sylw’r Cabinet ym mis Medi; a

 

(b) Nodi’r diweddariad chwarter cyntaf yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn 2024/25.