Mater - cyfarfodydd
Llywodraethu ar gyfer y Rhaglen Drawsnewid
Cyfarfod: 19/07/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 19)
19 Llywodraethu ar gyfer y Rhaglen Drawsnewid PDF 110 KB
Pwrpas: Cymeradwyo’r penderfyniad ar ddulliau trosolwg ar gyfer y rhaglen arfaethedig o adolygiadau trawsnewid. Nod y rhaglen drawsnewid yw adolygu’r ffordd rydym yn gweithio er mwyn gwneud arbedion i helpu i gau’r bwlch cyllido yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – diagram showing proposed governance structure, eitem 19 PDF 22 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Llywodraethu ar gyfer y Rhaglen Drawsnewid
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar y strwythur llywodraethu arfaethedig ar gyfer y rhaglen drawsnewid, gyda’r nod o wneud arbedion i helpu i gwrdd â'r bwlch ariannu yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Gofynnodd Arweinydd y Cyngor i gael gwneud cofnod o’i ddiolch i'r Cadeirydd am gymryd rhan yn y broses.
Yn ystod y drafodaeth, cafodd gwelliant ei gyflwyno, a’i golli. Pleidleisiwyd am welliant dilynol, a oedd yn adlewyrchu pryderon ynghylch adolygu cynnydd ar ganlyniadau ac adnoddau yn rheolaidd. Nododd swyddogion y cais am ddiweddariadau ar y rhaglen i nodi ‘safon methiant’ i ganfod unrhyw risgiau posibl.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r strwythur llywodraethu arfaethedig ac yn ei argymell i'r Cabinet ymrwymo i adnoddau Blwyddyn 1 (2024/25) y rhaglen; a
(b) Bod y Pwyllgor yn addasu ei raglen waith ei hun er mwyn ystyried y rôl y bydd yn ei chwarae yn y rhaglen drawsnewid.