Mater - cyfarfodydd

Ailgomisiynu Gwasanaethau Gofalwyr Di-dâl

Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 50)

Ailgomisiynu Gwasanaethau Gofalwyr Di-dâl

Pwrpas:        Ymgynghori ar yr adolygiad o wasanaethau gofalwyr a chynigion ar gyfer comisiynu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn nodi’r cynigion ar gyfer ailgomisiynu gwasanaethau gofalwyr am gyfnod o bum mlynedd, gan ddechrau o fis Ebrill 2025, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Gontractau’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cydnabod yr adborth a gafwyd yn lleol mewn perthynas â gwasanaethau gofalwyr fel rhan o’r adroddiad; a

 

(b)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion a wnaed i gomisiynu gwasanaethau gofalwyr am gyfnod o bum mlynedd, gan ddechrau o fis Ebrill 2025, yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Gontractau.