Mater - cyfarfodydd

Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2023/24

Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 40)

40 Dangosyddion Darbodus – Gwirioneddol 2023/24 pdf icon PDF 168 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion ynghylch gwir Ddangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2023/24 o’i gymharu â’r amcangyfrifon a bennwyd o ran Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion gwir ddangosyddion darbodus y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, o gymharu â'r amcangyfrifon a bennwyd ar gyfer:-

 

  • Dangosyddion darbodus ar gyfer Doethineb Ariannol
  • Dangosyddion darbodus ar gyfer Fforddiadwyedd

 

Tynnodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sylw at gymhareb y costau ariannol i’r ffrwd refeniw net, sydd i’w gweld yn Nhabl 6, a dywedodd fod y cymarebau gwirioneddol yn is na’r rhai yn y flwyddyn flaenorol, gan fod lefelau benthyca disgwyliedig y Cyngor ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir yn is nag a ragwelir yn ystod y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r dangosyddion darbodus yn yr adroddiad.