Mater - cyfarfodydd
Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Sefyllfa Derfynol)
Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 39)
39 Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Sefyllfa Derfynol) PDF 193 KB
Pwrpas: Cyflwyno’r wybodaeth am Sefyllfa Derfynol Rhaglen Gyfalaf 2023/24.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Capital Programme Monitoring 2023/24 (Outturn), eitem 39 PDF 36 KB
- Enc. 2 for Capital Programme Monitoring 2023/24 (Outturn), eitem 39 PDF 88 KB
- Enc. 3 for Capital Programme Monitoring 2023/24 (Outturn), eitem 39 PDF 141 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Rhaglen Gyfalaf 2023/24 (Sefyllfa Derfynol)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r sefyllfa derfynol ar gyfer 2023/24 ynghyd â’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter diwethaf.
Drwy’r Rhaglen Gyfalaf, gwelwyd gostyngiad net o (£16.834 miliwn) yn y gyllideb yn ystod y chwarter diwethaf, a oedd yn cynnwys:
- Gostyngiad net o (£12.875 miliwn) yng nghyllideb y rhaglen (Gweler Tabl 2 – Cronfa’r Cyngor (£10.125 miliwn), Cyfrif Refeniw Tai (£2.750 miliwn);
- Swm i’w ddwyn ymlaen i 2024/25 a gymeradwywyd ym Mis 9 o (£1.810 miliwn);
- Newid o grant Cynhaliaeth Ysgolion (£0.401 miliwn) a’r grant Anghenion Dysgu Ychwanegol (£1.575 miliwn) (Cronfa’r Cyngor); ac
- Arbedion a nodwyd yn y sefyllfa derfynol o (£0.173 miliwn) (Cronfa’r Cyngor)
Roedd y gwariant gwirioneddol am y flwyddyn yn £69.807 miliwn (Gweler Tabl 3).
Yr arian dros ben terfynol o’r Rhaglen Gyfalaf 2023/24 – 2025/26 oedd £2.815 miliwn, a oedd £0.819 miliwn yn uwch na’r £1.996 miliwn a ragwelwyd wrth gymeradwyo Rhaglen Gyfalaf 2024/25 – 2026/27 ar 6 Rhagfyr 2023.
Ar ôl derbyn y setliad llywodraeth leol terfynol, byddai'r Cyngor yn derbyn dyraniad is o £0.017 miliwn y flwyddyn, o gymharu â’r cyllid a amcangyfrifwyd pan gafodd y gyllideb ei gosod.
Felly, effaith y sefyllfa derfynol ar gyfer 2023/24 yw sefyllfa ariannol ddiwygiedig o arian dros ben o £0.820 miliwn (o gymharu â £0.052 pan gafodd y gyllideb ei gosod), cyn ystyried y derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffrydiau cyllido eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;
(b) Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r addasiadau dwyn ymlaen, fel y nodir ym mharagraff 1.15; a
(c) Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r dyraniad ychwanegol, fel y nodir ym mharagraff 1.19.