Mater - cyfarfodydd
Monitro'r Gyllideb Refeniw 2023/24 (Canlyniadau)
Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 37)
37 Monitro'r Gyllideb Refeniw 2023/24 (Canlyniadau) PDF 183 KB
Pwrpas: Cyflwyno gwybodaeth fonitro canlyniad y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2023/24.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring Report 2023/24 (Outturn), eitem 37 PDF 60 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring Report 2023/24 (Outturn), eitem 37 PDF 109 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring Report 2023/24 (Outturn), eitem 37 PDF 62 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring Report 2023/24 (Outturn), eitem 37 PDF 108 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring Report 2023/24 (Outturn), eitem 37 PDF 45 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro'r Gyllideb Refeniw 2023/24 (Canlyniadau)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn cynnwys sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai am flwyddyn ariannol 2023/24 (yn amodol ar archwiliad).
Roedd y Cyfrifon ar gyfer 2023/24 bellach wedi cael eu cau i bob pwrpas, a chafodd y Datganiad Cyfrifon ffurfiol a nodiadau ategol eu cyflwyno i Archwilio Cymru ar 25 Mehefin, a oedd o fewn yr amserlen a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Fel yr adroddwyd yn flaenorol, cyflwynwyd moratoriwm ar wariant heb ei ymrwymo dan gontract ochr yn ochr â phroses rheoli swyddi gwag, er mwyn ceisio lleihau gwariant yn ystod y flwyddyn a ‘lleddfu’r’ gorwariant a ragwelwyd bryd hynny. Cafodd y gwaith hwn effaith gadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.
Roedd y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn fel a ganlyn:
Cronfa’r Cyngor
- Roedd diffyg gweithredol o £1.446 miliwn, a oedd yn symudiad ffafriol o (£0.979 miliwn) o’r ffigwr diffyg o £2.445 miliwn a adroddwyd ym Mis 10.
- Rhagwelir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid sydd ar gael ar 31 Mawrth 2024 yn £2.972 miliwn (ar ôl ystyried y dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol, gan gynnwys y rhai a gymeradwywyd fel rhan o Gyllideb 2024/25).
Y Cyfrif Refeniw Tai
- Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.315 miliwn yn is na’r gyllideb a oedd yn newid ffafriol o £0.773 miliwn ers y ffigwr a adroddwyd ym Mis 10.
- Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2024 yn £3.5129 miliwn.
Yn ystod y flwyddyn ariannol, nodwyd £2.144 miliwn o wariant gohiriedig ac fe’i dadansoddwyd fesul gwasanaeth yn Atodiad 2. Byddai her gadarn ar gyfer y llinellau a’r ymrwymiadau cyllidebol yn parhau i’r flwyddyn ariannol nesaf yn 2024/25, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyflwyno mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, ar ôl ystyried y sefyllfa derfynol a’r dyraniadau a gymeradwywyd yn flaenorol, fod y lefel derfynol o Gronfa Wrth Gefn At Raid y Cyngor yn £2.972 miliwn ar 31 Mawrth 2024, gan gynnwys y rhai a gymeradwywyd fel rhan o gyllideb 2024/25, ac roeddent i’w gweld yn Atodiad 4. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd yr holl gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu hadolygu a’u herio dros yr haf, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n berthnasol a’u hangen ar yr un lefel.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn yng Nghronfa’r Cyngor sydd ar gael ar 31 Mawrth 2024 (yn amodol ar archwiliad);
(b) Bod y Cabinet yn nodi lefel derfynol y balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai (yn amodol ar archwiliad); a
(c) Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r ceisiadau dwyn ymlaen, fel yr amlinellir ym mharagraff 1.13.