Mater - cyfarfodydd
Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2023
Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 27)
27 Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2023 PDF 86 KB
Pwrpas: Mae’r Crynodeb Archwilio Blynyddol yn nodi’r gwaith archwilio a rheoleiddio sydd wedi’i wneud gan Archwilio Cymru mewn perthynas â Chyngor Sir y Fflint ers yr adroddiad blynyddol diwethaf a gyhoeddwyd fis Mawrth 2023. Mae'r crynodeb archwilio yn rhan o ddyletswyddau Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Annual Audit Summary for Flintshire County Council 2023, eitem 27 PDF 208 KB
- Enc. 2 for Annual Audit Summary for Flintshire County Council 2023, eitem 27 PDF 181 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2023
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Linda Thomas yr adroddiad a oedd yn nodi’r gwaith archwilio a rheoleiddio a gwblhawyd gan Archwilio Cymru, ers yr adroddiad blynyddol diwethaf, agyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023.
Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn gan Archwilio Cymru. Daeth cynigion ar gyfer gwella i’r amlwg yn yr adolygiadau lleol a chenedlaethol a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru a chafodd y rhain eu hadrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, y Cabinet a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol fel y bo’n briodol yn ystod y flwyddyn, a chafodd canfyddiadau’r adolygiadau lleol a chenedlaethol eu rheoli o ran risg, fel rhan o waith monitro rheolaidd.
Rhoes yr Archwilydd Cyffredinol farn ddiamwys, gwir a theg ar ddatganiadau ariannol y Cyngor ar 12 Ebrill 2024, ar ôl y dyddiad cau y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Cymru, sef 30 Tachwedd 2023. Darparwyd yr archwiliad yn hwyrach na’r blynyddoedd blaenorol, yn bennaf yn sgil effaith y gofynion safonau archwilio newydd. Rhoddwyd sylw i’r rhain yng nghynllun archwilio, Archwilio Cymru a chawsant eu hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Medi 2023.
Committee on 27 September 2023.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod Digartrefedd, Llamu Ymlaen a’r Strategaeth Ddigidol ymysg y meysydd a oedd yn destun adolygiad. Roedd y rhaglen waith arfaethedig wedi'i nodi yn adroddiad Archwilio Cymru, ac roedd yr asesiadau sicrwydd a’r asesiadau risg wedi’u cwblhau. Roedd yna ddau adolygiad thematig ac un adolygiad lleol a fyddai’n cael eu hadrodd i’r Cyngor wedi iddynt gael eu cwblhau gan Archwilio Cymru.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet wedi’i sicrhau gan gynnwys a sylwadau Adroddiad Archwilio Cryno Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2023.