Mater - cyfarfodydd

Cynllun Busnes Theatr Clwyd - diweddariad blynyddol

Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 51)

Cynllun Busnes Theatr Clwyd - diweddariad blynyddol

Pwrpas:        Rhoi cyfle i Aelodau weld Cynllun Busnes terfynol Theatr Clwyd 2023-29, a chael diweddariad blynyddol ar gyflawniad yn erbyn y Cynllun.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mared Eastwood yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Cynllun Busnes Theatr Clwyd 2023-2029 wedi’i ddiweddaru, ynghyd ag Adroddiad Effaith yn amlygu cyflawniadau, a chyfrifon ariannol Theatr Clwyd ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2023.

 

Er bod y Cynllun Busnes a'r Adroddiad Effaith yn cynnwys holl weithgareddau Theatr Clwyd, nid oedd yr adroddiad yn cynnwys y cyfrifon archwiliedig ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth, a oedd yn cyd-fynd â'r flwyddyn academaidd ac a oedd ar hyn o bryd yn cael eu cymeradwyo gan archwilwyr allanol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet yn nodi cynnwys Cynllun Busnes Theatr Clwyd, yr hyn a gyflawnwyd fel y nodwyd yn yr Adroddiad Effaith, a’r sefyllfa ariannol fel y manylir yn y cyfrifon a ddarparwyd.