Mater - cyfarfodydd
Cynllun Busnes Theatr Clwyd - diweddariad blynyddol
Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 51)
Cynllun Busnes Theatr Clwyd - diweddariad blynyddol
Pwrpas: Rhoi cyfle i Aelodau weld Cynllun Busnes terfynol Theatr Clwyd 2023-29, a chael diweddariad blynyddol ar gyflawniad yn erbyn y Cynllun.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (51/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (51/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (51/4)
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun Busnes Theatr Clwyd - diweddariad blynyddol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mared Eastwood yr adroddiad a oedd yn cyflwyno Cynllun Busnes Theatr Clwyd 2023-2029 wedi’i ddiweddaru, ynghyd ag Adroddiad Effaith yn amlygu cyflawniadau, a chyfrifon ariannol Theatr Clwyd ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2023.
Er bod y Cynllun Busnes a'r Adroddiad Effaith yn cynnwys holl weithgareddau Theatr Clwyd, nid oedd yr adroddiad yn cynnwys y cyfrifon archwiliedig ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth, a oedd yn cyd-fynd â'r flwyddyn academaidd ac a oedd ar hyn o bryd yn cael eu cymeradwyo gan archwilwyr allanol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn nodi cynnwys Cynllun Busnes Theatr Clwyd, yr hyn a gyflawnwyd fel y nodwyd yn yr Adroddiad Effaith, a’r sefyllfa ariannol fel y manylir yn y cyfrifon a ddarparwyd.