Mater - cyfarfodydd
Cyllid Grant Trydydd Sector
Cyfarfod: 19/07/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 22)
Cyllid Grant y Trydydd Sector
Pwrpas: Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid y trydydd sector; Cist Gymunedol a Chyllid Strategol. Bydd hyn yn cynnwys diweddariad cynnydd ar weithredu’r camau sy’n deillio o’r adolygiad diwethaf ar gyllid ac argymhellion ar gyfer camau nesaf.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (22/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (22/3)
- Gweddarllediad ar gyfer Cyllid Grant y Trydydd Sector
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau ddiweddariad ar gyllid y trydydd sector; Y Gist Gymunedol a Chyllid Strategol, a oedd yn cynnwys cynnydd ar roi camau gweithredu o'r adolygiad diwethaf ar waith, ac argymhellion ar gyfer y camau nesaf.
Cytunodd swyddogion i geisio eglurder ynghylch cyllid y Gist Gymunedol, er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y swm a nodir yn yr adroddiad a’r swm ar wefan y Cyngor. Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi'r wybodaeth a ddarparwyd ar gyllid y trydydd sector, ynghyd â'r cynnydd a wnaed wrth weithredu adolygiad blaenorol;
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi argymhelliad o adolygiad pellach o Gyllid Strategol i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd, gan gynnwys y rhai a amlygwyd gan yr Archwiliad Mewnol diweddar. Yn ogystal, bod adroddiadau pellach yn cael eu dwyn yn ôl i'r Pwyllgor wrth i'r gwaith fynd rhagddo er mwyn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi parhad cynllun cyllid grant y Gist Gymunedol, yn amodol ar adolygiad sydd i'w gynnal yn 2024/25, i gynnwys y cylch gorchwyl.