Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Blynyddol Diogelu Oedolion a Phlant
Cyfarfod: 06/06/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 6)
6 Adroddiad Blynyddol Diogelu Oedolion a Phlant PDF 162 KB
Pwrpas: Rhoi gwybodaeth i Aelodau mewn perthynas â darpariaeth Diogelu Oedolion a Phlant ar y cyd o fewn ffiniau’r sir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth a’r Uned Ddiogelu yr adroddiad a darparodd drosolwg o’r Uned Ddiogelu, ei swyddogaethau statudol a’r meysydd sy’n cael eu cynnwys yn y pum gwasanaeth. Cyflwynwyd gwybodaeth am gyllid Llywodraeth Cymru (LlC) hefyd, y gwaith ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Plant a’r cysylltiadau gyda’r Grwpiau Rhanbarthol.
Yn dilyn cwestiwn am sicrwydd, awgrymodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) y dylid ychwanegu adroddiad yn amlinellu cryfderau a heriau’r Hwb Diogelu newydd at Raglen Waith y Pwyllgor.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cefnogi.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad fel gwybodaeth berthnasol mewn cysylltiad â Diogelu Sir y Fflint ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 a’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd;
(b) Bod y Pwyllgor wedi rhoi sylw dyledus i’r amrywiaeth o weithgareddau ar draws yr Uned Ddiogelu a datblygiad a gwelliannau parhaus o ran darpariaeth gwasanaeth; a
(c) Bod y Pwyllgor yn fodlon bod y Broses Ddiogelu ar gyfer Oedolion a Phlant yn Sir y Fflint yn gadarn.