Mater - cyfarfodydd

Ail-gomisiynu Gwasanaethau Cyfleoedd Dydd a Gwaith Oedolion gydag Anableddau Dysgu

Cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet (eitem 20)

Ail-gomisiynu Gwasanaethau Cyfleoedd Dydd a Gwaith Oedolion gydag Anableddau Dysgu

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Gwasanaethau Cyfleoedd Dydd a Gwaith i Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a darparodd y wybodaeth ddiweddaraf am ail-gomisiynu gwasanaethau cyfleoedd dydd a gwaith oedolion gydag anableddau dysgu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y contract cyfredol i’r darparwr gwasanaeth presennol am wasanaethau cyfleoedd dydd a gwaith oedolion gydag anableddau dysgu, a gaiff ei ddarparu gan Hft, yn cael ei gymeradwyo. Cynigir y byddai’r estyniad am gyfnod o bum mlynedd a 2 fis arall gan ddechrau ar 1 Chwefror 2025, gyda’r dewis i ymestyn y contract am ddwy flynedd arall, felly byddai’n dod i ben ar 31 Mawrth 2032.  Mae’r gwariant disgwyliedig ar gyfer y dyfarniad contract arfaethedig yn golygu bod y penderfyniad am ddyfarniadau uniongyrchol hirdymor angen penderfyniad Cabinet yn ôl y trothwyon i’r awdurdod gymeradwyo amrywiadau sylweddol fel y nodir yn Rheolau Gweithdrefn Gontractau’r awdurdod lleol; a 

 

(a)       Bod dyfarniad uniongyrchol y contract i’r darparwr gwasanaeth presennol am wasanaethau cyfleoedd dydd a gwaith oedolion gydag anableddau dysgu, a gaiff ei ddarparu gan CBC Clocktower fel y manylwyd yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.   Cynigir y byddai’r Dyfarniad Uniongyrchol am gyfnod o bum mlynedd gan ddechrau ar 1 Ebrill 2025, gyda’r dewis i ymestyn y contract am ddwy flynedd arall, felly byddai’n dod i ben ar 31 Mawrth 2032.  Mae’r gwariant disgwyliedig ar gyfer y dyfarniad contract arfaethedig yn golygu bod y penderfyniad am ddyfarniadau uniongyrchol hirdymor angen penderfyniad Cabinet neu benderfyniad dirprwyedig yn ôl y trothwyon i’r awdurdod gymeradwyo eithriadau fel y nodir yn Rheolau'r Weithdrefn Gontractau.