Mater - cyfarfodydd

Arolwg Preswylwyr Cymru Gyfan

Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 29)

29 Arolwg Preswylwyr Cymru Gyfan pdf icon PDF 132 KB

Pwrpas:        I geisio cymeradwyaeth gan Aelodau Cyngor Sir y Fflint i fod yn rhan o Arolwg Preswylwyr Cymru gyfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth Sir y Fflint i dderbyn y cynnig i gymryd rhan ym modiwlau craidd rhad ac am ddim yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol a gweithredu’r Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol cyn diwedd haf 2024. 

 

Roedd Rhaglen Wella Data Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi creu arolwg modwlar i breswylwyr, a oedd yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim i bob Cyngor lleol yng Nghymru ers mis Gorffennaf 2024. Byddai’r arolwg yn casglu gwybodaeth leol o lefel uchel, gan nodi canfyddiadau pobl o Sir y Fflint a’r Cyngor (y ‘beth’).Yn ei dro, byddai’r data a gesglir yn cael ei ddefnyddio i lywio meysydd lle bod angen i’r Cyngor o bosibl ymchwilio iddynt ymhellach ac mewn mwy o fanylder, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r canfyddiadau hynny (y ‘pam’).

 

Roedd cynghorau ar draws y DU gyfan yn parhau i wynebu heriau ariannol digynsail ac roedd yn profi’n fwy anodd nag erioed i fantoli cyllidebau gyda disgwyliadau’r cyhoedd. Gyda’r angen cynyddol i wneud penderfyniadau anodd, ac yn aml rhai annymunol, roedd hi’n bwysig deall barn a safbwyntiau preswylwyr a rhoi’r cyfle i bobl ddweud eu dweud o ran helpu i wneud gwelliannau lle bynnag y bo modd.

 

Nododd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yr adroddiad yn gysylltiedig â’r adroddiad Strategaeth Ddigidol blaenorol, ac yn benodol yr argymhelliad gan Archwilio Cymru ynghylch ymgynghori â phreswylwyr. CLlLC fyddai’n noddi’r arolwg, gan sicrhau dull cyson ar draws Cymru, y byddai modd ei feincnodi. O 2025, byddai modd i gynghorau unigol gomisiynu rhagor o fodiwlau cwestiynau pwrpasol, sy’n berthnasol i’w hanghenion busnes eu hunain am gost fechan.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Chris Bithell, rhoddwyd sicrwydd gan y Prif Swyddog y gallai preswylwyr nad oedd yn gallu cael mynediad at yr arolwg ar-lein wneud hynny drwy Lyfrgelloedd Aura neu swyddogion Sir y Fflint yn Cysylltu, lle y byddai’r Sgwad Ddigidol ar gael i gynnig cymorth. Fel arall, byddai modd i breswylwyr ofyn am gopïau papur o’r arolwg.   

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo bod Sir y Fflint yn derbyn y cynnig i gymryd rhan ym modiwlau craidd rhad ac am ddim yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol; 

 

(b)       Bod y Cabinet yn cefnogi Sir y Fflint i weithredu’r Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol cyn diwedd yr haf 2024; a

 

(c)        Bod y Cabinet yn cefnogi gweithgarwch ymgynghori ac ymgysylltu atodol, yn seiliedig ar ganfyddiadau’r Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r ‘pam’ sy’n sail i’r data a gasglwyd.