Mater - cyfarfodydd

Trosglwyddo’r Cyngor i Fodel Casglu Gwastraff Gweddilliol Cyfyngedig

Cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet (eitem 35)

35 Trosglwyddo’r Cyngor i Fodel Casglu Gwastraff Gweddilliol Cyfyngedig pdf icon PDF 160 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am ganlyniad y gwaith modelu gwastraff ac ailgylchu gan WRAP Cymru gyda’r bwriad o wneud y mwyaf o berfformiad ailgylchu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dave Hughes yr adroddiad a oedd yn amlinellu'r gwaith modelu a wnaed ac yn cyflwyno'r model casglu arfaethedig i'w fabwysiadu gan y Cyngor er mwyn cyrraedd y targed statudol o 70%.

 

O 2024/2025, roedd y targed statudol ar gyfer faint o wastraff sy’n cael ei baratoi i’w ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i gompostio wedi cynyddu i 70%, ar ôl gosod targed o 64% yn y blynyddoedd blaenorol fel rhan o Strategaeth “Mwy nag Ailgylchu” Llywodraeth Cymru (LlC). Fodd bynnag, fel Cyngor, ni lwyddodd Sir y Fflint i gyrraedd y targed statudol blaenorol o 64% yn unrhyw un o’r pedair blynedd cynt a, heb newid sylweddol yn y gwasanaeth, ni fyddai’n cyrraedd y targed o 70% sy’n ofynnol erbyn 2025. Gallai hyn arwain at ragor o gosbau ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yr oedd disgwyl iddynt eisoes fod yn uwch nag £1 miliwn ar gyfer 2021/22 a 2022/23.

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau 2024, ac ar ôl i’r Cyngor fabwysiadu’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ym mis Mawrth 2024, bu i’r Cabinet gymeradwyo argymhelliad i ystyried adroddiad pellach ym mis Mehefin 2024 i amlinellu gwaith y Cyngor i drosglwyddo i fodel casglu gwastraff gweddilliol cyfyngedig, yr ymrwymwyd iddo ym Mlaenoriaeth Dau yn y Strategaeth a chafodd ei gydnabod fel dull effeithiol o leihau gwastraff gweddilliol a chasglu cymaint â phosibl o ddeunyddiau ailgylchu.

 

Er mwyn cefnogi hyn, bu i’r Cyngor ymgysylltu â WRAP Cymru, Partneriaethau Lleol a’u hymgynghorwyr, WPS a CRS, i gynnal ymarfer modelu i efelychu gwahanol ddulliau o gasglu gwastraff gweddilliol at ddibenion pennu’r model gorau posibl ar gyfer:

  1. gwneud y mwyaf o botensial ailgylchu a gwella perfformiad.
  2. lleihau’r effaith ar yr amgylchedd drwy leihau allyriadau nwyon t? gwydr.
  3. lleihau costau gweithredu.

 

Nododd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ganlyniadau’r gwaith modelu a dywedodd fod yr ymarfer modelu wedi dangos mai Dewis 2a (bin du 180 litr ar olwynion a gesglir bob 4 wythnos - wythnos waith 5 diwrnod (capasiti o 45 litr bob wythnos)) a gyflawnodd y cynnydd mwyaf o ran perfformiad, sef 5.9 pwynt canran, yn erbyn y Llinell Sylfaen Uwch. Arweiniodd y cyfyngiad mwyaf ar y capasiti gweddilliol wythnosol oedd ar gael at y dargyfeiriad uchaf o ran ailgylchu bwyd a deunyddiau sych o’r ffrwd weddilliol, ac roedd amlder y casgliadau bob 4 wythnos yn sicrhau casglu’r swm mwyaf posibl o ddeunyddiau ailgylchu.

 

Dywedodd y Prif Swyddog hefyd nad oedd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yn cefnogi’r cynigion a nodwyd i’w cymeradwyo gan y Cabinet.  

 

Cynigiodd yr Arweinydd ddiwygio’r argymhelliad y dylid casglu gwastraff gweddilliol yn llai aml, unwaith bob tair wythnos, a chadw’r bin du 180 litr ar olwynion.   Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Hughes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Healey, er bod y model bob pedair wythnos yn darparu’r arbedion mwyaf, yn lleihau allyriadau ac yn cynnig y cyfle gorau i gyrraedd y targedau statudol cynyddol a osodwyd gan LlC, roedd yn cefnogi’r cynigion i newid i gasgliad bob tair wythnos a dywedodd fod y canfyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad,  ...  view the full Cofnodion text for item 35