Mater - cyfarfodydd
Archwilio Cymru: Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio
Cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet (eitem 10)
10 Archwilio Cymru: Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio PDF 135 KB
Pwrpas: Diweddaru ar gynnydd i fodloni argymhellion adroddiad “Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio” Archwilio Cymru ac argymell gwelliannau i sicrhau bod Asesiadau o Effaith Integredig yn cael eu cynnal yn fwy cyson yn y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Audit Wales: Equality Impact Assessments: more than a tick box exercise, eitem 10 PDF 59 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Archwilio Cymru: Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad gan egluro bod Archwilio Cymru, ym mis Medi 2022, wedi cyhoeddi adroddiad ar ei ganfyddiadau o ddefnydd Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yng Nghymru.
Nod yr archwiliad oedd rhoi cipolwg ar y dull o ymdrin ag Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Roedd yr adroddiad “Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy Nag Ymarfer Blwch Ticio?” yn nodi pedwar argymhelliad a saith maes gwella allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus. Roedd yr adroddiad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy’n cael eu cymryd i gyflawni’r argymhellion a oedd yn berthnasol i gyrff cyhoeddus.
PENDERFYNWYD:
Bod y cynnydd i ddiwallu’r argymhellion gan Archwilio Cymru yn “Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb: Mwy nag Ymarfer Blwch Ticio?” yn cael ei nodi.