Mater - cyfarfodydd
Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2023/24
Cyfarfod: 13/06/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 8)
8 Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2023/24 PDF 112 KB
Pwrpas: Cyflwyno drafft o Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2023/24 i’w gymeradwyo, a darparu sicrwydd bod y Cyngor wedi dangos cynnydd wrth fodloni gofynion statudol Hysbysiad Cydymffurfio - Iaith Gymraeg.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Annual Report 2023/24, eitem 8 PDF 868 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2023/24
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol adroddiad ar gynnydd y Cyngor wrth gydymffurfio á Safonau’r Gymraeg a nodi meysydd ar gyfer cynnydd a gwelliant pellach.
Mewn ymateb i’r pwyntiau a godwyd, byddai Aelodau Cabinet perthnasol yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd pan gyflwynir adroddiadau yn eu henwau.
Cefnogwyd yr argymhellion ynghyd â chynnig ychwanegol.
PENDERFYNWYD:
a) Cymeradwyo’r Adroddiad Monitro Blynyddol drafft ar Safonau’r Gymraeg ar gyfer 2023/24;
b) Bod y Pwyllgor wedi’i sicrhau bod y Cyngor yn gwneud cynnydd tuag at fodloni gofynion statudol Hysbysiad Comisiynydd y Gymraeg; a
c) Bod yr Ymgynghorydd Polisi Strategol yn cysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau bod gwybodaeth am hyfforddiant a mentrau datblygu yn cael eu hanfon at bob aelod etholedig i hyrwyddo mwy o ddefnydd o’r Gymraeg.