Mater - cyfarfodydd

Adroddiad a Chynllun Gweithredu Archwiliad Gwerthuso Perfformiad AGC o’r Gwasanaethau Cymdeithasol (Tachwedd 2023)

Cyfarfod: 18/06/2024 - Cabinet (eitem 11)

11 Adroddiad a Chynllun Gweithredu Archwiliad Gwerthuso Perfformiad AGC o’r Gwasanaethau Cymdeithasol (Tachwedd 2023) pdf icon PDF 125 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ganlyniad Archwiliad Gwerthuso Perfformiad Arolygiaeth Gofal Cymru o’r Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd fis Tachwedd 2023, yn cynnwys y cynllun gweithredu sy’n seiliedig ar yr argymhellion yn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi ym mis Hydref y byddent yn ymweld â Sir y Fflint i ymgymryd ag Arolygiad Gwerthuso Perfformiad llawn o Wasanaethau Plant ac Oedolion.

 

Diben yr arolwg oedd adolygu perfformiad yr awdurdod lleol mewn ymarfer ei ddyletswyddau a swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru.  Hwn oedd yr arolygiad llawn cyntaf i'r portffolio ei gael ers dros wyth mlynedd ac roedd yn gyfle i arddangos yr arfer creadigol ac arloesol yn Sir y Fflint.

 

Cyhoeddwyd yr adroddiad llawn ar 22 Chwefror 2024 ac roedd, ar y cyfan, yn gadarnhaol o ran y canfyddiadau ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Roedd cynllun gweithredu wedi cael ei lunio yn seiliedig ar yr argymhellion a wnaed gan yr arolygwyr.

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r tîm a oedd wedi cefnogi’r gwaith a oedd angen ei wneud drwy’r arolwg heriol.  Ychwanegodd fod yr arolygwyr wedi gwneud sylwadau ar y gefnogaeth gadarnhaol a ddarparwyd gan Gynghorwyr.  Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd lle cafodd yr argymhellion eu cefnogi.  Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Swyddog a’r tîm.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi canlyniad yr adroddiad a chefnogi’r Cynllun Gweithredu canlyniadol.