Mater - cyfarfodydd
Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Cynllun Gweithredu
Cyfarfod: 25/11/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 48)
Cyflwyno cynllun gweithredu manwl i’r Pwyllgor i gefnogi canlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor. Bydd hefyd yn ffurfio'r sail ar gyfer darparu unrhyw hyfforddiant pellach sydd ei angen ar y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
- Amg. 1, eitem 48
PDF 82 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Cynllun Gweithredu - Adolygiad Canol Blwyddyn
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) gyda chynllun gweithredu manwl i ategu canlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor.
Wrth ymateb i sylwadau am yr Adroddiad Blynyddol / Atebolrwydd, dywedodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg byddai cyfarfodydd gydag Arweinydd newydd y Cyngor a’r Dirprwy Arweinwyr yn cael eu hadfer.
Mewn perthynas â rôl y Pwyllgor, awgrymwyd y gallai’r cynllun gweithredu gynnwys cyfeiriad penodol at safbwynt Archwilio Cymru yngl?n â’r Pwyllgor yn ystyried y tymor hwy parthed cynaliadwyedd ariannol. Byddai swyddogion hefyd yn sicrhau y byddai aelodau cyfetholedig y Pwyllgor yn cael eu gwahodd i weithdai ar y gyllideb a drefnir yn dilyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol.
Tra adroddid am gynnydd y Rhaglen Drawsnewid wrth Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, cytunwyd y trefnid adroddiad lefel uchel ar gynllunio ariannol ar gyfer yr hirdymor ar y rhaglen waith er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor hwn bob chwe mis.
Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD:
Wedi ystyried y cynllun gweithredu, bod y Pwyllgor yn cefnogi’r canlynol:
· Cyfarfodydd rheolaidd gydag Arweinydd a Dirprwy Arweinwyr y Cyngor
· Cynnwys cyfeiriad penodol yn y cynllun gweithredu at y Pwyllgor yn ystyried y tymor hwy parthed cynaliadwyedd ariannol
· Adroddiad bob chwe mis i’w drefnu ar y Rhaglen Drawsnewid.