Mater - cyfarfodydd

Datganiad Cyfrifon Drafft 2023/24

Cyfarfod: 24/07/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 18)

18 Datganiad Cyfrifon Drafft 2023/24 pdf icon PDF 125 KB

Cyflwyno Datganiad Cyfrifon drafft 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Cyllid Strategol Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2023/24a chafwyd cyflwyniad ar y materion allweddol.

 

Ymatebodd Swyddogion i amrywiaeth o gwestiynau a chytuno i adolygu sylwebaeth ar amrywiadau sylweddol yn adran naratif yr adroddiad terfynol.  Byddai copi o’r sleidiau yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Nodi Datganiad Cyfrifon drafft 2023/24 (sy’n cynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol); a

 

(b) Bod yr Aelodau’n nodi’r cyfle i drafod unrhyw agwedd ar y Datganiad Cyfrifon drafft gyda swyddogion neu Archwilio Cymru yn ystod y cyfnod archwilio, cyn i’r fersiwn archwiliedig derfynol ddod yn ôl at y Pwyllgor i’w gymeradwyo’n derfynol ar 25 Tachwedd 2024.