Mater - cyfarfodydd

Opsiynau ar gyfer y dyfodol: Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd a Amgueddfeydd

Cyfarfod: 24/04/2024 - Cabinet (eitem 158)

Dewisiadau ar gyfer y dyfodol: gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad am ddewisiadau tymor hwy i ddarparu’r gwasanaethau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r trefniadau gweithredu presennol a gwerthusiad o ddewisiadau i gyflawni yn y dyfodol ac yn gofyn cymeradwyaeth i roi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, wrth ymgynghori ag Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, i fwrw ymlaen â’r dewis(iadau) a ffefrir a’u gweithredu.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r wybodaeth gefndir a’r sefyllfa bresennol o ran darpariaeth gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd, chwarae ac amgueddfeydd;

 

(b)       Gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant gynnull cyfarfod arbennig cyn gynted ag y bo modd i ystyried yr opsiynau a oedd yn yr adroddiad;

 

(c)        Bod adroddiad yn gwerthuso’r holl ddewisiadau’n dod yn ôl ger bron y Cabinet ar frys, gan gynnwys sylwadau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a safbwyntiau Aura;

 

(d)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr i weithredu’r dewisiadau hyn wrth ymgynghori ag Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden ac Arweinydd y Cyngor; a

 

(e)       Bod rhagor o adroddiadau’n dod ger bron y Cabinet wrth i waith gael ei wneud i roi diweddariad ar y cynnydd, ac unrhyw gamau gweithredu penodol sydd eu hangen, a rhoi diweddariadau cyfrinachol ehangach i’r Aelodau hefyd.