Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Dreigl Buddsoddi Cyfalaf a Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru

Cyfarfod: 24/04/2024 - Cabinet (eitem 156)

Rhaglen Dreigl Buddsoddi Cyfalaf a Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Amlinellol Strategol y Cyngor, sy’n nodi anghenion buddsoddi yn y dyfodol ar gyfer ystâd yr ysgol dros y saith mlynedd nesaf drwy Gronfa Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad gan egluro bod Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru’n mynnu bod pob Awdurdod Lleol yn cyflwyno eu Rhaglenni Amlinellu Strategol treigl i Lywodraeth Cymru (LlC) eu hystyried erbyn 31 Mawrth 2024.

 

Roedd y Rhaglen Amlinellu Strategol yn nodi amlinelliad lefel uchel o’r darpar brosiectau roedd Cyngor yn ystyried y gallai eu hariannu, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a oedd yn bodloni’r meini prawf am gyllid a osodwyd gan LlC.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r prosiectau a oedd yng nghyflwyniad Cynllun Amlinellu Strategol y Cyngor i LlC. Roedd yn egluro’r egwyddorion a ddefnyddiwyd a'r rhagdybiaethau a wnaed i ddarparu rhaglen sy’n cael yr effaith leiaf bosib’ ar gyllidebau refeniw’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo cyflwyniad y Rhaglen Amlinellu Strategol i Lywodraeth Cymru.