Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Dreigl Buddsoddi Cyfalaf a Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru
Cyfarfod: 24/04/2024 - Cabinet (eitem 156)
Rhaglen Dreigl Buddsoddi Cyfalaf a Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Cynllun Amlinellol Strategol y Cyngor, sy’n nodi anghenion buddsoddi yn y dyfodol ar gyfer ystâd yr ysgol dros y saith mlynedd nesaf drwy Gronfa Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (156/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (156/3)
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Dreigl Buddsoddi Cyfalaf a Model Buddsoddi Cydfuddiannol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Eastwood yr adroddiad gan egluro bod Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru’n mynnu bod pob Awdurdod Lleol yn cyflwyno eu Rhaglenni Amlinellu Strategol treigl i Lywodraeth Cymru (LlC) eu hystyried erbyn 31 Mawrth 2024.
Roedd y Rhaglen Amlinellu Strategol yn nodi amlinelliad lefel uchel o’r darpar brosiectau roedd Cyngor yn ystyried y gallai eu hariannu, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a oedd yn bodloni’r meini prawf am gyllid a osodwyd gan LlC.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r prosiectau a oedd yng nghyflwyniad Cynllun Amlinellu Strategol y Cyngor i LlC. Roedd yn egluro’r egwyddorion a ddefnyddiwyd a'r rhagdybiaethau a wnaed i ddarparu rhaglen sy’n cael yr effaith leiaf bosib’ ar gyllidebau refeniw’r dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo cyflwyniad y Rhaglen Amlinellu Strategol i Lywodraeth Cymru.