Mater - cyfarfodydd

Gwaith Cyfalaf – Caffael Gwaith ar y Gragen Allanol dan SATC ar adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor (Toi, Pwyntio, Rendro, Ffenestri a Drysau ac ati)

Cyfarfod: 24/04/2024 - Cabinet (eitem 157)

Gwaith Cyfalaf – Caffael Gwaith ar y Gragen Allanol dan SATC ar adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor (Toi, Pwyntio, Rendro, Ffenestri a Drysau ac ati)

Pwrpas:        Derbyn cymeradwyaeth yr Aelodau i estyn dau gontract sydd wedi’u caffael yn barod; drwy Ddyfarniad Uniongyrchol drwy’r Fframwaith Caffael a Mwy, gan alluogi’r Cyngor i barhau â gwaith SATC ar gragen allanol oddeutu 1500 o eiddo yn ystod y pum mlynedd ariannol nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth gan yr Aelodau i benodi dau gontractwr; trwy Ddyfarniad Uniongyrchol drwy Fframwaith Procure Plus, i wneud gwaith ar gragen allanol gyfan tua 1,500 o adeiladau dros y pum mlynedd ariannol nesaf.

 

Roedd y gwaith yn parhau â’r ail ran o welliannau cyfalaf a oedd wedi’u cynllunio er mwyn sicrhau bod cartrefi’r Cyngor a oedd yn cael eu rhentu’n parhau i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a’r holl ofynion deddfwriaethol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cabinet ac Aelod Cabinet Tai a Chymunedau yn cymeradwyo’r Dyfarniad Uniongyrchol a oedd wedi’i nodi yn yr adroddiad, i ymgymryd â’r gwaith ar gragen allanol gyfan yr adeiladau drwy’r fframwaith Procure Plus.  Arweiniodd yr ymarfer tendr blaenorol at benodi’r rhai a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad yn llwyddiannus i gyflawni’r rhaglen flaenorol a nhw oedd y contractwyr a oedd wedi gwneud y gwaith.